{bc}
cornerstone

GWEITHIWR CYMDEITHASOL

Cardiff Council
Cardiff, GBR
Part-time
Mid
Onsite
Discovered 1 months ago

Full Job Posting

Am Y Gwasanaeth

Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Rydym am ddatblygu ein gwasanaethau a chryfhau ein dull o ymdrin ag arferion gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd.

Ynglŷn â’r Gwasanaeth

Mae'r swydd hon yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau i unigolion yn y ddinas sy'n defnyddio Gwasanaethau Digartrefedd a allai fod â phroblemau iechyd meddwl. Mae'r swydd yn cael ei rheoli gan y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Oedolion o fewn y Gwasanaethau Cymorth Arbenigol sy'n gyfrifol am Dîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd a Thîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Nhîm Gwaith Cymdeithasol y Gwasanaethau Oedolion yng Nghanol y Ddinas sy'n rhan o’r Gwasanaethau Cymorth Arbenigol, a byddwch yn ymwneud â'r Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd.

Rydym wedi ymrwymo i Ymarfer Gwaith Cymdeithasol sy'n Seiliedig ar Gryfderau; gan gydweithio ag unigolion i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth ac i weithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyrraedd eu llawn botensial.

Yr hyn y byddwn yn ei gynnig i chi

Gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi gweithwyr cymdeithasol proffesiynol ac sy'n cefnogi eu hymarfer.

Dull sefydledig o gyflawni gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau gyda grwpiau mentor i annog trafodaeth a dysgu proffesiynol mewn sesiynau gwarchodedig.

Cyfle i hyfforddi fel rhan o'r gwaith o gynnig ymarfer a mentora ar sail cryfderau.

Goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd i gefnogi a chynnal ymarferwyr.

Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo'r ymarfer rhagorol a welwn gan ein gweithwyr cymdeithasol.

Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol a mynediad at ddiweddariadau cyfreithiol ac ymarfer rheolaidd.

Rhaglen hyfforddi arbenigol bwrpasol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy gyda threfniadau goruchwylio clinigol pwrpasol i gefnogi hyn.

Am Y Swydd

Mae'r rôl yn gofyn eich bod yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a bod gennych brofiad o weithio gyda phobl ag anawsterau iechyd meddwl. Bydd gofyn i chi hefyd fod yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. Byddwch yn cynnal asesiadau gyda phobl ag anawsterau iechyd meddwl sy'n byw yn y ddarpariaeth Digartrefedd yn y ddinas ac yn ymwneud â chydweithwyr yn Nhîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd y Cyngor. Bydd hyn yn gofyn am waith amlasiantaethol ac amlbroffesiynol agos gyda chydweithwyr o'r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Gwasanaethau Oedolion a Digartrefedd yn ogystal ag asiantaethau a chydweithwyr eraill. Bydd gofyn i chi ymarfer gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a byddwch yn gwneud rhywfaint o waith uniongyrchol gydag unigolion yn ogystal â darparu rôl ymgynghorol i gydweithwyr yn y Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd.

Fel Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau ar sail rota sy'n cefnogi Hyb Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy Cyngor Caerdydd.

Bydd gofyn i chi weithio mewn modd sy'n Seiliedig ar Gryfderau gydag oedolion yn eu cefnogi i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth. Bydd gofyn i chi weithio yn unol â Deddfwriaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Iechyd Meddwl 1983: diwygiwyd yn 2007 a Deddfwriaeth Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Bydd gofyn i chi baratoi ar gyfer cyfarfodydd a'u mynychu lle mae angen gwneud penderfyniadau.

Y swydd batrwm parhaol rhan-amser, yn gweithio 18.5 awr yr wythnos.

Yn weithredol o 1 Ebrill 2021, mae’r swydd hon yn denu atodiad marchnad o £3000 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn. Caiff y taliad hwn ei adolygu bob 12 mis.

Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy pellach o £2800 yn cael ei dalu yn ogystal â’r cyflog a’r taliad atodol ar sail y farchnad, os yw’n berthnasol".

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Profiad o weithio gydag oedolion a/neu bobl ifanc ag anghenion cymhleth ac anawsterau iechyd meddwl.

Ymrwymiad i arfer rhagorol gydag unigolion, teuluoedd, Gofalwyr a Chymunedau.

Sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Iechyd Meddwl (1983, 2007), Deddfwriaeth Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig, ar lafar ac yn ddi-eiriau a'r gallu i ymgysylltu'n gadarnhaol ag oedolion ifanc ag anghenion gofal a chymorth.

Ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth a gwaith amlbroffesiynol i hyrwyddo canlyniadau da i bob oedolyn ifanc.

Ymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n Seiliedig ar Gryfderau gydag unigolion.

Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Dylai ymgeiswyr wybod nad yw nawdd fisa ar gael ar hyn o bryd o fewn y Gwasanaethau Oedolion.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad ydynt yn eiddo i chi.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sally Davies - [email protected]

Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Canllawiau Gwneud Cais

Gwneud cais am swydd â ni

Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Pecyn Recriwtio

Siarter Cyflogeion

Recriwtio Cyn-droseddwyr

Nodyn Preifatrwydd

Apply for this job in 1 click

Skip the repetitive application forms

Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.

Sarah M.James T.Maya R.

Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career

Start Free Today

More from this employer

More jobs at Cardiff Council