CYDLYNYDD DIGIDOL A THRAWSNEWID
Full Job Posting
Am Y Gwasanaeth
Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn llawn cymhelliant ac arloesol ymuno â Gwasanaethau Rheng Flaen.
Mae ein tîm Digidol a Phrosiectau’n gweithio ar draws ystod amrywiol o wasanaethau, gan gefnogi cyflwyno mentrau trawsnewid digidol, gwella busnes ac ail-ddylunio gwasanaethau. Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau gweithredol i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella, gweithredu technolegau newydd a sicrhau bod gwasanaethau wedi'u cyfarparu i gwrdd â heriau presennol ac yn y dyfodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rôl allweddol wrth lunio sut mae gwasanaethau rheng flaen yn cael eu darparu, gan helpu i wella canlyniadau i breswylwyr trwy dechnoleg, arloesi a chydweithio.
Am Y Swydd
Fel Cydlynydd Prosiectau Digidol a Thrawsnewid, byddwch yn cydlynu ac yn cyflwyno ystod o brosiectau digidol a gwella gwasanaethau ar draws Gwasanaethau Rheng Flaen.
Gan weithio'n agos gyda rheolwyr, timau gweithredol, cydweithwyr TGCh a chyflenwyr, byddwch yn nodi cyfleoedd i wella prosesau, gweithredu datrysiadau digidol a chefnogi gweithgareddau trawsnewid gwasanaethau. Byddwch yn cymryd rhan ym mhob cam o gyflawni prosiectau, o ddadansoddi anghenion busnes a datblygu atebion hyd at weithredu, ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwireddu buddion.
Ni fydd unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth. Un diwrnod efallai y byddwch chi'n gweithio gyda rheolwyr gwasanaeth i ail-ddylunio proses fusnes, y nesaf yn cefnogi gweithredu system newydd, dadansoddi data gwasanaeth, paratoi adroddiadau ar gyfer uwch reolwyr neu weithio gyda chyflenwyr i gyflawni gwelliannau.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy'n mwynhau datrys problemau, gweithio ar y cyd a defnyddio technoleg ddigidol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddarparu gwasanaethau rheng flaen.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am wella gwasanaethau a chofleidio ffyrdd newydd o weithio.
Bydd gennych brofiad o gydlynu prosiectau, darparu gwelliannau gwasanaeth neu gefnogi gweithgareddau trawsnewid digidol. Byddwch yn gyfforddus yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid, yn deall anghenion busnes a datblygu atebion ymarferol i heriau gweithredol.
Byddwch yn meddu ar sgiliau dadansoddol a threfnu cryf ac yn hyderus yn casglu gwybodaeth, dehongli data a chynhyrchu adroddiadau, argymhellion a dogfennaeth prosiect clir. Byddai profiad o weithio gyda systemau digidol, gwella prosesau neu fentrau newid yn fuddiol iawn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hunan-gychwynnwr rhagweithiol sy'n gallu rheoli blaenoriaethau cystadleuol, adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol a chyfathrebu'n effeithiol â chydweithwyr ar bob lefel. Byddwch yn ymrwymedig i welliant parhaus ac yn mwynhau dod o hyd i ffyrdd arloesol o wella darpariaeth gwasanaeth a chanlyniadau cwsmeriaid.
Mae profiad o gymwysiadau Microsoft 365 yn hanfodol a byddai profiad o gyflawni prosiectau, gweithgareddau caffael, dadansoddi busnes neu weithio o fewn amgylcheddau gwasanaeth gweithredol yn fanteisiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan :
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Canllawiau Gwneud Cais
Gwneud cais am swydd â ni
Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Pecyn Recriwtio
Siarter Cyflogeion
Recriwtio Cyn-droseddwyr
Nodyn Preifatrwydd
About Cardiff Council
The local government authority for Cardiff, Wales.
Visit company websiteJobs and hiring trendsApply for this job in 1 click
Skip the repetitive application forms
Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.
Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career
More from this employer
More jobs at Cardiff Council
Prentis Corfforaethol Cyngor Caerdydd (Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog / Cymorth Fflyd)
Cardiff, GBR
CORPORATE APPRENTICE (LEVEL 2) - FLEET BUSINESS SUPPORT OFFICER
Cardiff, GBR
CATERING MANAGER - YSGOL GYFUN GYMRAEG PLASMAWR
Cardiff, GBR
CATERING MANAGER - YSGOL GYFUN GYMRAEG PLASMAWR
Cardiff, GBR
Swyddog Ymgyrchoedd Gwastraff
Cardiff, GBR
WASTE CAMPAIGNS OFFICER
Cardiff, GBR
ASSISTANT SOLICITOR CIVIL LITIGATION
Cardiff, GBR
Prentis Corfforaethol Cyngor Caerdydd (Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog / Cymorth Fflyd)
Cardiff, GBR
CORPORATE APPRENTICE (LEVEL 2) - FLEET BUSINESS SUPPORT OFFICER
Cardiff, GBR
MTR TRAFFIC CONTROLLER
Cardiff, GBR