Welsh Headings
Full Job Posting
Am Y Gwasanaeth
Mae Caerdydd yn falch o gynnal gêm agoriadol a phum gêm arall EURO 2028 UEFA, gan groesawu cannoedd o filoedd o gefnogwyr ac arddangos ein prifddinas ar lwyfan fyd-eang. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos uchelgais, creadigrwydd a darpariaeth o'r radd flaenaf yng Nghaerdydd.
Er mwyn cynnal digwyddiad o'r raddfa a'r arwyddocâd hwn, mae Cyngor Caerdydd yn adeiladu tîm perfformiad uchel ac yn chwilio am Uwch Reolwr Profiad o’r Ddinas profiadol i lunio ac arwain taith dinas gyfan ymwelwyr ar gyfer EURO 2028.
Mae hwn yn gyfle unigryw i chwarae rhan ganolog yn un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i’w gynnal erioed yng Nghymru a helpu i greu gwaddol parhaol i Gaerdydd a'i chymunedau.
Am Y Swydd
Rydym yn chwilio am uwch reolwr profiadol, ysbrydoledig a chydweithredol sydd â chefndir cryf mewn digwyddiadau chwaraeon mawr i helpu i ddarparu profiad eithriadol EURO 2028 UEFA i Gaerdydd.
Bydd gennych brofiad amlwg o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau chwaraeon proffil uchel, rheoli gweithrediadau cymhleth a gweithio gyda sawl partner a sefydliad i gyflawni ar raddfa fawr. Byddwch yn deall gofynion unigryw cyflwyno digwyddiadau mawr, o brofiad gwylwyr a pharodrwydd gweithredol i gydlynu amlasiantaethol a diogelwch. Byddwch yn hyderus wrth ddod â thimau, rhanddeiliaid a chymunedau amrywiol at ei gilydd, gyda'r sgiliau arwain, y creadigrwydd a'r ymwybyddiaeth fasnachol sydd eu hangen i wireddu cynlluniau uchelgeisiol.
Yn bwysicaf oll, byddwch yn rhannu ein huchelgais i wneud Caerdydd yn ddinas groeso ragorol, gan greu profiadau cofiadwy i wylwyr, trigolion ac ymwelwyr, cryfhau balchder dinesig a chyflawni gwaddol cadarnhaol a pharhaol i'r ddinas.
Os oes gennych angerdd dros chwaraeon, hanes o gyflwyno digwyddiadau mawr a'r gallu i arwain gyda hyder mewn amgylchedd cymhleth, proffil uchel, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am uwch reolwr profiadol, ysbrydoledig a chydweithredol sy'n gallu troi gweledigaeth feiddgar ar gyfer Caerdydd yn brofiad heb ei ail o’r ddinas.
Byddwch yn dod â hanes cryf o arwain rhaglenni cymhleth, proffil uchel a gweithio ar draws sawl partner a sefydliad i gyflawni ar raddfa. Byddwch yn hyderus wrth ddod â thimau, rhanddeiliaid a chymunedau amrywiol ynghyd o amgylch uchelgais a rennir, gyda'r creadigrwydd a'r ymwybyddiaeth fasnachol i ddarparu profiadau cofiadwy i ymwelwyr a phreswylwyr.
Yn bwysicaf oll, byddwch yn rhannu ein huchelgais i wneud Caerdydd yn ddinas groeso heb ei hail, creu profiadau y bydd pobl yn eu cofio, cryfhau balchder dinesig a gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Os ydych chi'n angerddol dros ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, yn ffynnu mewn amgylcheddau cymhleth ac eisiau bod yn rhan o ddigwyddiad nodedig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Pecyn Recriwtio
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
About Cardiff Council
The local government authority for Cardiff, Wales.
Visit company websiteJobs and hiring trendsApply for this job in 1 click
Skip the repetitive application forms
Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.
Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career
More from this employer
More jobs at Cardiff Council
Gweithiwr Cymdeithasol Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches (PDCLl)
Cardiff, GBR
Social Worker - Unaccompanied Asylum-Seeking Children (UASC)
Cardiff, GBR
Swyddog Gwasanaethau Etholiadol - Arweinydd Ymwybyddiaeth Gyhoeddus
Cardiff, GBR
Gweithiwr Cymdeithasol Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches (PDCLl)
Cardiff, GBR
Social Worker - Unaccompanied Asylum-Seeking Children (UASC)
Cardiff, GBR
HOUSING FIRST OFFICER
Cardiff, GBR
Swyddog Tai yn Gyntaf ( Pobl sy'n Gadael Gofal)
Cardiff, GBR
Swyddog Gwasanaethau Etholiadol - Arweinydd Ymwybyddiaeth Gyhoeddus
Cardiff, GBR
ELECTORAL OFFICER - PUBLIC AWARENESS
Cardiff, GBR
Cyfreithiwr (Caffael a Chontractau)
Cardiff, GBR
SOLICITOR (Adult Services)
Cardiff, GBR