CYFRIFYDD GRŴP
Full Job Posting
Am Y Gwasanaeth
Mae'r Gwasanaeth Cyllid yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys Cyfrifeg, Archwilio, Cyllid Trafodiadol, Llywodraethu Gwybodaeth, Gweinyddu Pensiynau, cyngor TAW, Treth Gyngor, Ardrethi Busnes, Adennill a’r Gweithdy Trafnidiaeth.
Mae'r tîm Cyfrifeg yn wasanaeth canolog sy'n darparu casgliad llawn o wasanaethau i gyfarwyddiaethau ac ysgolion mewn perthynas â gwariant refeniw a chyfalaf o ran gosod cyllideb, monitro a chau cyfrifon.
Mae gan y tîm Cyfrifeg dimau arbenigol sy'n darparu'r Datganiad Cyfrifon, gwasanaeth rheoli’r trysorlys a gwasanaethau bancio.
Am Y Swydd
Byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i un o'r Rheolwyr Gweithredol cyfrifeg. Mae'r swyddi a hysbysebir yn cynnwys arwain gwasanaeth cyfrifeg, rheoli ariannol a chyngor ariannol llawn i gyfarwyddiaethau.
Byddwch yn gyfrifol am dîm o gyfrifwyr a byddwch yn cael cyswllt bob dydd ag uwch reolwyr o fewn cleient-gyfarwyddiaethau yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r uwch reolwyr Cyllid.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am gyfrifydd cymwys neu rywun sydd â phrofiad cyfrifyddu sylweddol ar lefel uwch. Byddwch yn dangos gwybodaeth gref o lywodraeth leol neu gyllid sector cyhoeddus, ochr yn ochr â dealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth ariannol, codau cyfrifyddu proffesiynol ac arfer gorau.
Bydd gennych chwilfrydedd proffesiynol, sgiliau cyfathrebu rhagorol, a sgiliau dadansoddol cryf. Byddwch yn gallu dangos eich bod yn gallu ysbrydoli a datblygu aelodau'r tîm yn ogystal â chreu a chynnal perthnasoedd adeiladol â chleient-adrannau.
Byddwch yn gallu cyflawni canlyniadau’r gwasanaeth tra'n cynnal egwyddorion disgyblaeth a rheolaeth ariannol effeithiol.
Byddwch yn rhywun sy'n gyfforddus yn gweithredu mewn amgylchedd gwaith hybrid.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Am drafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â Gillian Brown ([email protected])
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Pecyn Ymgeisydd
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
About Cardiff Council
The local government authority for Cardiff, Wales.
Visit company websiteJobs and hiring trendsApply for this job in 1 click
Skip the repetitive application forms
Install the Base Career Chrome Extension and autofill job applications across major job boards with your profile.
Trusted by over 500,000 job seekers on Base Career
More from this employer
More jobs at Cardiff Council
TRANSPORT CO-ORDINATOR
Cardiff, GBR
Swyddog Datgelu Data a Chofnodion
Cardiff, GBR
RHEOLWR DATBLYGU A GWEITHREDU NEWID
Cardiff, GBR
Swyddog Cyllid
Cardiff, GBR
DATA DISCLOSURE & RECORDS OFFICER
Cardiff, GBR
SCHOOL CROSSING PATROL
Cardiff, GBR
GARDENER
Cardiff, GBR
GYRRWR/GARDDWR
Cardiff, GBR